Mae’r byd wedi crebachu.
Mae’r profiadau sydd ar gael i ni yn llai niferus ac amrywiol.
Rwy’n cofio’n glir iawn y peth cyntaf i ni golli, wrth i’r pla deithio o Wuhan i weddill Tsieina. Sef y tro cyntaf i mi sylweddoli fod y pla yn mynd i newid fy nghynlluniau. A’r peth hwnnw oedd y penderfyniad ar y pedwerydd o Fawrth i ohirio rhyddhau No Time To Die, y ffilm James Bond nesaf.
Peth bach, wrth gwrs, yng nghyswllt popeth arall. Dibwys, hyd yn oed.