Ar ddechrau’r wythnos cyhoeddodd cyn-gapten tîm rygbi dynion Ffrainc, Jefferson Poirot, ei fod yn ymddeol o rygbi rhyngwladol a hynny am iddo golli ‘cymhelliad’. Jefferson, rwy’n teimlo dy boen. Uchafbwynt yr wythnos diwethaf oedd glanhau tu fewn y car. A na, dim golwg o fy mra. Er, wrth chwilio amdano, mi ddarganfyddais domen o fagiau pigo fyny bechingalws ci, ac mae digon o dâp selo ac amser i greu rhywbeth defnyddiol allan o’r rheini, os chi’n gw’bod beth fi’n meddwl.