Y row dw i’n cofio’ i chael fwya’ gan fy niweddar fam – ac eithrio un anffodus o gyhoeddus am neidio mewn ar ben y frozen peas yn Gateway, Aberystwyth – oedd row am gelwydda. Do’n i ddim yn gelwyddgi mawr ofnadw’, ond o’n i’r oedran ’na lle o’n i’n meddwl gallen i ddod mas o dwll gydag ambell gelwydd. Dylsen i ’di gw’bod yn well – do’n nhw byth yn gweithio, o’dd Mam fel Poirot yn sbotio nhw’n syth – “Ti’n rhaffu celwydde! A ma raid ti stopio, s’neb yn lico rhywun sy’n rhaffu celwydde – a