Gyda’r tywydd ffein a’r amser ychwanegol ar eich dwylo, fuoch chi mas yn hau hadau dros yr wythnosau diwethaf?

Dim ond i ni gael ychydig o law, gobeithio y gwelwn ffrwyth ein llafur yn blodeuo’n fuan, i harddu’n bywydau yn y cyfnod rhyfedd yma.

Wrth i ni addasu trefn ein bywydau personol i ymdopi â chyfnod y coronafeirws, mae ein mudiadau a’n cymunedau wedi bod yn addasu hefyd, oll gyda’r un nod, sef cynnal cymdeithas a chynnal cyswllt rhwng pobol er lles ein gilydd.

Ymhlith y mudiadau hynny y mae’r Clybiau Ffermwyr Ifanc, sydd wedi mynd ati ar eu liwt eu hunain i gynnig gwasanaeth cymorth amhrisiadwy i bobol sy’n hunanynysu. Mae’r capeli ac eglwysi wedi newid yn gyflym hefyd, gyda gweinidogion yn saethu a golygu fideos amrywiol wrth gyflwyno myfyrdodau dros y Sul.

A thybed a oedd eich papur bro chi’n un o’r rhai i addasu? Gyda’r cyfyngiadau’n eu hatal rhag dosbarthu copïau print, mae 30 o bapurau bro Cymru wedi cydio yn y cyfle i gyhoeddi ar-lein ar Bro360.cymru. Mae’r ymateb – gan ddarllenwyr a chyhoeddwyr – wedi bod yn arbennig.

Nid lle i bapurau bro oedd Bro360 i fod, ond rydyn ni wedi addasu er mwyn helpu yn y cyfnod yma. Mae prif egni Bro360 dros y deunaw mis diwethaf wedi mynd ar greu rhywbeth newydd cyffrous – sef helpu cymunedau i greu gwefannau straeon lleol newydd.

Os ydych chi’n ddigon ffodus i fyw yn Arfon neu ogledd Ceredigion, mae’n debyg bod eich gwefan fro yn fyw, ac yn datblygu’n lle cyffrous i dynnu popeth sy’n digwydd yn lleol ynghyd, ac felly…

Y mis yma bydd lansiad digidol pedair o’r gwefannau bro!

Y Steddfod ddigidol gyntaf yn y byd – ar Clonc360

Gyda’r gwefannau bro, CHI sy’n creu. Cerbyd yw Bro360 a’r arfau digidol sy’n cael eu datblygu gennym, i alluogi pobol yn ein cymunedau i adnabod anghenion eu cymdeithas a gwireddu eu potensial. Cafodd y gwefannau eu creu mewn ymateb i’ch syniadau chi, a’ch egni chi sydd am eu cynnal.

Ein rôl ni fel tîm Bro360 yw ysgogi a galluogi pobol leol i greu pob math o bethau ar eich gwefan fro…

Sesiwn syniadau i gyd-greu gwefan fro Caernarfon360

Roedd Eisteddfod Capel-y-groes yng Ngheredigion yn un o’r criwiau cyntaf i ni eu helpu i addasu yn ystod Covid-19. Yn lle canslo, penderfynodd y pwyllgor arbrofi a chynnal ’steddfod gwbl ddigidol – yr un gyntaf yn y byd, medden nhw! Denwyd dros 150 o blant i gystadlu a chafodd fideos o’r buddugwyr eu darlledu ar wefan Clonc360. Ers hynny, wrth gwrs, mae ’steddfodau cenedlaethol wedi dilyn ôl troed y ’steddfod leol hon o ochre’ Llanbed!

Bu blog Mari Ffridd ar DyffrynNantlle360 yn gyfrwng iddi rannu ei phrofiad fel ffermwr yn ystod y coronafeirws a rhannu neges am bwysigrwydd cefnogi amaethwyr er mwyn cynnal cymdeithas.

Fideos spŵff oedd y cyfrwng ddewisodd criw o Gardis ifanc i droi sefyllfa anodd yn hiwmor, trwy dynnu sylw at ein harferion newydd yn ystod y pandemig. Cewch weld ffrwyth eu ffraethineb ar BroAber360 a Clonc360.

A bu’r ysgogiad i greu a rhannu rhestrau chwarae Spotify o artistiaid y fro yn gyfle i bobol ifanc Ogwen360 a DyffrynNantlle360 roi miwsig lleol ar y map.

Mae cyfraniad golwg360 at y rhwydwaith yn cyfoethogi’r arlwy, trwy roi sylw i newyddion caled lleol-iawn. Bu darlledu cyfweliadau Zoom diweddar – gyda’r gohebydd yn gofyn eich cwestiynau chi i arweinwyr cynghorau sir Ceredigion a Gwynedd – yn hynod boblogaidd ac yn dod â democratiaeth yn nes at y bobol.

Podlediadau, orielau lluniau, blogs byw – mae cymaint mwy yn bosib ar gyfryngau digidol, a chewch flas o hynny yn ystod Mehefin gydag #EinBro – lansiadau digidol pedair o’r gwefannau cyntaf. Uchafbwynt pob wythnos fydd diwrnod o sesiynau amrywiol gan bobol leol ar y dydd Gwener.

1-5 Mehefin – DyffrynNantlle360

8-12 Mehefin – BroAber360

15-19 Mehefin – Ogwen360

22-26 Mehefin – Clonc360

Be wnei di greu?

Pam crëwyd y Clybiau Ffermwyr Ifanc, y capeli anghydffurfiol a’r papurau bro yn y lle cyntaf? Roedd pobol yn awchu am gael dod ynghyd yn eu milltir sgwâr i fwynhau, cyd-ddysgu a rhannu’r diweddara am eu bro. I feithrin yr ymdeimlad o berthyn.

Heddiw, mae datblygiadau’r we’n ein galluogi i gadw cyswllt rhwng pobol ac i gyhoeddi ein straeon ein hunain – ar sawl cyfrwng, ac yn syth bin. I gryfhau’r ymdeimlad o berthyn yn y filltir sgwâr. Mae’r hadau a heuwyd mewn chwe chymuned wedi blodeuo’n wefannau bro bywiog sy’n berchen i chi, y bobol leol.

Dyma’ch gwahodd chi i fanteisio ar eich lle ar y We. Ymunwch. Crëwch. Cydiwch yn y cyfle i gyfrannu at gryfhau’r gymdeithas.