Mae’r geiriau yn Saesneg.

Rydw i eisiau eu trydar nhw, neu eu paentio ar betryal mawr powld o gerdyn gwyn i’w rhoi yn y ffenest. Rydw i eisiau sticer i’w roi ar y car, hashnod i’w rannu ar facebook. Ond mae’r geiriau yn Saesneg. Nid oes slogan cyfatebol yn Gymraeg, ac felly mae fy mysedd yn oedi uwchben y bysellfwrdd, fy nhafod yn chwilio am yr union eiriau.

Mae’r geiriau yn Saesneg.

Achos… Pam?

Mae’r gwir yn garreg yn fy esgid.