Wythnos wedi ei anerchiad o’r ardd yn Downing Street, mae troeon trwstan Dominic Cummings yn parhau’n destun trafod yma yng Nghymru.

Mae prif ymgynghorydd Boris Johnson wedi ei feirniadu’n hallt am yrru o Lundain i ogledd Lloegr ym mis Mawrth (taith o 260 milltir).

Roedd hyn rhai dyddiau wedi i’r cyfnod clo ddod i rym yn Lloegr, ac mae’r ffigwr dadleuol wedi ei gyhuddo o dorri rheolau’r argyfwng.