Doedd Prif Lenor Eisteddfod T erioed wedi cystadlu am Goron yr Urdd o’r blaen – ond mae penderfynu mentro yn Eisteddfod T “wedi talu ar ei ganfed” meddai Mared Fflur Jones.

Roedd y ffaith bod y gystadleuaeth yn benagored o ran testun a’i fod yn gofyn am lai o eiriau na’r arfer – o dan 400 – hefyd wedi denu Mared Fflur Jones i fentro.