Dim ond ers blwyddyn mae Lowri Fôn Jones wedi dychwelyd i fyw i’w milltir sgwâr yng Nghemaes ar Ynys Môn, lle mae hi’n gydlynydd criw o wirfoddolwyr sydd hefyd yn helpu’r ardal ehangach.

“Yn wreiddiol ffrind i mi wnaeth ofyn a oedd yna wirfoddolwyr eisio helpu yn Amlwch a wnes i roi fy enw ymlaen ac yna wnaeth o dyfu o hynny. Mae yna ddwsinau o wirfoddolwyr yn y gymuned a fy rhif ffôn i gafodd ei roi mewn llythyrau aeth allan jest cyn y lockdown,” eglura.