Ar ôl cyfnod tawel a blynyddoedd o beidio gigo a chyhoeddi caneuon newydd, mae Yws Gwynedd yn ôl gyda chân ffynci i godi calon y genedl.

Aeth tair blynedd heibio ers cyhoeddi ei albym ddiwethaf, Anrheoli, ac nid yw wedi bod ar lwyfan yn canu ers 2017.

Ac yn rhyfedd ddigon, y cyfnod dan glo sydd wedi ei ysbrydoli i droi eto at gyfansoddi gyda’i fand.