Mae miliwn a mwy wedi gwylio Matt Yorke a Macsen y lama yn cludo bwyd i bobol Sir Benfro yn ystod cyfnod y cloi mawr.

Mae ganddo ddeg o lamas i gyd a chyn y corona mi’r oedd yn ennill ei fara menyn yn codi arian ar bobol am fynd â’r anifeiliaid yma am dro.

Ond wrth i amgylchiadau newid mae wedi troi ei law at ddelifro bwyd a nwyddau gyda’r anifeiliaid blewog.

Bu iddo ennyn sylw’r BBC, ITV ac ABC (yn yr Unol Daleithiau) ym mis Mai am gludo nwyddau i’w gymdogion bregus.