Y llyfr dw i ar ei ganol ei ddarllen

Prynais gopi o lyfr diweddar Naomi Klein yn anrheg i fy mab, ond rhaid cyfaddef, rwyf wedi’i ddwyn! Mae Klein yn sylwebydd craff ar y berthynas rhwng cyfalafiaeth a newid hinsawdd. Yn On Fire mae’n sôn am y Fargen Werdd Newydd (Green New Deal) ac yn cynnig cynllun i’n harwain ni at degwch a byd di-garbon. Amdani!

Y llyfr a newidiodd fy mywyd