Gareth Evans o bentref Hirwaun yng Nghwm Cynon sydd wedi creu a chyfarwyddo’r gyfres deledu dreisgar Gangs Of London sydd i’w gweld ar Sky ar hyn o bryd.

Ac er mai ym mhrifddinas Lloegr mae’r prif ddrama yn digwydd, mae’r Cymro wedi sicrhau bod un o bennodau Gangs of London yn digwydd yma yng Nghymru, ac mae’r Gymraeg i’w chlywed yn y bennod honno.