Mae dros draean o’r bobl sy’n byw yng Nghymru yn dweud eu bod yn ffraeo yn amlach gyda’u partner ers y cloi mawr.

Fe gawson nhw eu holi gan Relate, yr elusen sy’n cwnsela miloedd ar filoedd o gyplau a’u teuluoedd ar adegau anodd.

Yn ôl eu gwaith ymchwil diweddara’ mae 20% o bobl sy’n byw gyda’u partner yn dweud eu bod nhw’n cael amheuon am eu perthynas, ar ôl treulio cyfnodau hir gyda nhw.