Sut brofiad oedd ffilmio 35 Diwrnod?

Wnes i fwynhau’n fawr. Mae bod mewn murder mystery yn fwy o hwyl na fydde rhywun yn ei ddisgwyl! Ddim yn aml dw i’n cael gwisgo dillad ficer…

Dw i’n chwarae cymeriad o’r enw Iolo, ficer newydd i’r ardal. Mae’n byw yn y BnB lleol ac yn awyddus iawn i ddod i ‘nabod aelodau’r gymuned, weithiau mewn ffordd anghonfensiynol i ficer arferol, efallai. Ond, fel pawb arall, mae ganddo ei gyfrinachau.