Er eu bod nhw yn edrych fel dau ganwr sy’n dod o lefydd gwahanol iawn, mae partneriaeth Hywel Pitts a’r Welsh Whisperer wedi bod yn llwyddiant ysgubol.

Tra bo’r Welsh Whisperer yn gwisgo het gowboi, denim tuxedo a mwstash matcho, mae Hywel Pitts yn edrych fel y classic canwr-gyfansoddwr sensitif a swil.

Ond mae’r ddau wedi ffurfio priodas gerddorol effeithiol.