Mae yna ryw harddwch herfeiddiol yn perthyn i osgo’r bardd sydd ar glawr y gyfrol newydd, Dal i Fod.

Er bod y bardd Elin ap Hywel, sy’n byw yn Llanilar ger Aberystwyth, yn deall ers dwy flynedd bod arni ddementia, mae’r agwedd ddi-ildio yma yn nodweddiadol ohoni, yn ôl ei chyfeillion pennaf.