Mae cerddor amlwg o Loegr wedi beirniadu’r “ff**in Cymry” am beidio gadael iddo ymweld â’r wlad.

Bernard Sumner yw canwr New Order, y band sy’n enwog am y mega hit ‘Blue Monday’, a llawer mwy

Mae’r cerddor o barthau Manceinion yn hoff o hwylio yn ei amser hamdden.

Ac mewn darn yn The Times mae’n sôn am y rhwystredigaeth o fethu ymweld â’i long bleser.