Mae galw cynyddol ar Lywodraeth Cymru i ariannu’r hosbisys yn yr un modd â  gwasanaethau iechyd a gofal eraill sydd yr un mor hanfodol.

Trystan Pritchard yw Prif Weithredwr Hosbis Dewi Sant sydd â phencadlys yn Llandudno.

Mae’r elusen yn darparu gwasanaeth yn siroedd Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn.

Mae Hosbis Dewi Sant yn rhedeg 26 o siopau elusen sydd i gyd ar gau, ac mae pob digwyddiad codi arian wedi ei ganslo.