Bydd degau o filoedd o swyddi yn y fantol os na fydd prifysgolion Cymru yn cael eu helpu wrth ymdopi â’r argyfwng coronafeirws.

Ac fe allai colli swyddi wneud niwed i’r economi ehangach mewn trefi a dinasoedd prifysgol fel Aberystwyth, Bangor a Llanbedr Pont Steffan.

Dyna mae’r academydd Cian Siôn wedi ei rybuddio yn sgil ymchwil i’r mater ar ran Canolfan Llywodraethiant Cymru (CLlC), Prifysgol Caerdydd.