Yn ddiweddar mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi dechrau ar ei gweithgareddau AmGen – ei rhaglen sy’n cynnig arlwy yn lle’r brifwyl fawr a oedd fod i ddigwydd yn Nhregaron yn wythnos gyntaf Awst eleni, ond sydd wedi ei gohirio tan 2021.

Mae’r Eisteddfod AmGen yn cynnig o leiaf un gweithgaredd y dydd, a hynny’n bennaf ar-lein ar wefannau, a bydd rhaglen wythnosol yn cael ei chyhoeddi bob dydd Gwener.