Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd wedi cyhuddo Plaid Cymru o droi’r coronafeirws yn fater “gwleidyddol”.

Yn ôl Angela Burns, mae’r Blaid yn defnyddio’r pandemig i geisio dadlau’r achos dros gael Cymru annibynnol o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Plaid Cymru wedi bod yn cwyno am ddiffyg cydweithio honedig rhwng pedair llywodraeth y Deyrnas Unedig wrth gael gafael ar offer Covid-19.