Mae arwyddion calonogol fod y farchnad cawsiau o safon sy’n cael eu gwneud gyda llaeth organig yng Nghymru, yn dechrau codi oddi ar ei gliniau.

Ond mae pryderon hefyd y bydd prisiau’r farchnad llaeth organig yn chwalu os na fydd cynhyrchwyr yn gallu dychwelyd i wneud caws yn fuan.

Mae Patrick Holden yn gwneud caws traddodiadol Hafod efo llaeth organig ar fferm deuluol Bwlchwernen Fawr yn Llangybi, de Ceredigion.