Galla i ddim credu bod cymaint o fy amser prin yn cael ei wastraffu ar rywbeth oedd ddim yn bod ychydig dros fis yn ôl.

Na, nid y Coronafeirws, ond y piggin gath!

Wedi atgyfodi ar ôl i ryw gwrcyn ffyrnig ei dagu’r wythnos ddiwethaf, fe stopiodd fwyta ganol yr wythnos.

Er yn iawn yn ei hunan – hynny yw, yn dal i ymosod a thynnu gwaed yn fwy effeithiol na’r gwasanaeth trallwyso – roedd e’n gwrthod popeth a roddwyd o’i flaen.