Sut mae’r cwmnïau celfyddydol yn cadw cysylltiad gyda’u cynulleidfaoedd yn ystod pandemig? Dyma restr o rai sy’n ceisio’u gorau glas i ddod â byd o greadigrwydd i’ch cartref…

NoFit State

Mae athrawon y cwmni wedi dod at ei gilydd yn y rhith-fyd i’ch cadw yn heini ac yn barod i ymuno â’r syrcas. Mae’r athrawon yn gwneud hyn yn wirfoddol ac mae’r dosbarthiadau ar-lein am ddim.