Mae Steve Collings wedi profi bywyd go wahanol i’ch cynghorydd sir arferol chi.

Erbyn heddiw mae’n ddyn Plaid Cymru sy’n cynrychioli Bangor ar Gyngor Gwynedd, ac yn rhan ganolog o’r gwaith o gynnal banc bwyd y ddinas.

Ond rhyw ddegawd yn ôl roedd yn byw ym Mhalesteina, wedi priodi gyda dynes leol, ac yn anwybyddu gorchymyn swyddogol i adael y wlad.

Yn wreiddiol o’r Wyddgrug, dechreuodd yr antur ar droad y ganrif pan symudodd i Fangor i astudio Hanes a Gwleidyddiaeth.