Doedd trigolion y pentre ddim wedi disgwyl i neb brynu’r hen adfail ar lannau’r llyn, ddim hyd yn oed Americanwr efo mwy o bres na synnwyr. Roedd yr hen gastell bychan mor uffernol o bell o bob man, ac wedi cael llawer mwy na’i siâr o anlwc dros y blynyddoedd rhwng cael ei hambygio’n arw gan y Cromweliaid yn 1621, ac wedyn cael ei roi ar dân gan yr IRA yn 1921. Roedd y bobl leol wedi hen dderbyn mai syrthio’n bentwr o gerrig fyddai Castell Dumhach yn y diwedd gan f