Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru wedi galw ar y Gweinidog Iechyd, ei Lywodraeth, a Byrddau Iechyd Cymru, i fod yn gwbl agored gyda’r cyhoedd wrth ddatgelu faint sydd wedi marw o Covid-19.

Daw’r alwad wedi iddi ddod i’r amlwg bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cymryd mis i gyhoeddi’r nifer fu farw o’r haint yn y gogledd.

Neidiodd y ffigwr o bedwar i 88 dros nos yr wythnos ddiwethaf.