Mae Ynni Cymunedol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio pobl gyffredin yn dod at ei gilydd i gychwyn prosiectau ynni sy’n amrywio o hydro a solar.

Maen nhw yn ceisio arbed arian ar filiau ynni a helpu pobl i droi at yrru ceir trydan.

Nawr mae’r grwpiau hyn yn newid ffocws ac yn dangos pwysigrwydd prosiectau ynni sy’n eiddo lleol, trwy roi eu hamser a’u harian i gefnogi’r rhai mwyaf bregus yn ein cymunedau yn ystod pandemig Covid-19.