Bydd gan lyfrgelloedd Cymru rôl arbennig o bwysig i’w chwarae o ran ein hiechyd ni yn ystod y chwe mis nesaf yma, ac yn enwedig o ran ein hiechyd meddwl ni. Maen nhw’n medru cynnig mannau diogel i weithio ac ymlacio, cwmnïaeth, staff cefnogol a chydymdeimladol, mynediad o bell ac agos at ddiwylliant a gwybodaeth a chyfleoedd i ddysgu a datblygu sgiliau newydd. Yn wir, mewn ymchwil a wnaed yn 2012 daeth llyfrgellwyr yn ail i feddygon o ran ymddiriedaeth pobl ynddyn nhw.