Mae Steffan Alun yn perfformio stand-yp ledled gwledydd Prydain ers bron i ddegawd, ac wedi hen arfer â chael y rhyddid i deithio Cymru (a’r wlad drws nesa’!)

yn cynnal gigs.

Felly sut mae’r digrifwr yn ymdopi â chael ei gyfyngu gan y rheolau hunanynysu?

“Ers 2011, dw i wedi bod yn perfformio comedi llwyfan – stand-yp – yn Gymraeg

ac yn Saesneg, ar hyd a lled Prydain a thu hwnt,” eglura.