Mae’n anodd iawn iawn iawn gwybod beth i’w ddweud…

Yr hyn sy’n amlwg i bawb yw ein bod ni’n byw mewn cyfnod hynod anodd, a bod pethau’n debygol o waethygu cyn iddyn nhw wella.

Ond gwella y gwnân nhw yn y pendraw.

Yn y cyfamser, rhaid i ni i gyd gydio’n dynn ym mha beth bynnag fydd yn ein cynnal drwy’r dyddiau pryderus hyn. Beth bynnag ein crefydd, ein daliadau personol, ein hathroniaeth fyw, bydd gofyn i ni i gyd dwrio’n ddwfn i’n cynnal ein hunain a’n gilydd.