Yn fuan wedi cwymp Wal Berlin yn 1989, dechreuodd yr Almaenwr Lars Kretschmer ymddiddori yng Nghymru a’r Gymraeg. 

Cafodd ei fagu yn nhref Großräschen, yn yr 1980au pan oedd ei famwlad wedi’i rhannu’n ddwy.

Roedd yn byw yn Nwyrain yr Almaen dan gyfundrefn gomiwnyddol, ac mae’n cofio’r diffyg rhyddid a’r teimladau ynysig a ddaeth yn ei sgil.