Annwyl Ti, 

Dw i ddim yn meindio bod ar ynys. Dw i’n iawn. Mae ’na bethau gwaeth na hynny. Rhywsut, dw i’n gallu rhoi’r pryderon am salwch a chyflog a dioddefaint mewn bocs bach, a’i roi dan glo yn rhywle sy’n ddwfn yn fy mherfedd. Mae’r bocs bach yn dechrau agor rhyw fymryn pan dw i’n edrych ar y newyddion neu ar sgrin brysur, flin fy ffôn, felly dw i’n dysgu fy hun i beidio.

Dw i’n gwylio teledu gwael.