Heddiw (dydd Llun, Tachwedd 20), mae’n Ddiwrnod Cofio Trawsryweddol, sef diwrnod cofio blynyddol ar gyfer unigolion sydd wedi colli eu bywydau yn sgil trawsffobia.
Nod y diwrnod yw tynnu sylw at y cam-drin a’r trais sydd yn dal yn digwydd i lawer o bobol drawsryweddol heddiw.
Caiff digwyddiadau a gwylnosau eu cynnal ar draws y byd bob blwyddyn.
Dyma ychydig o hanes Diwrnod Cofio Trawsryweddol a’r digwyddiadau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru heddiw…
Ers pryd mae Diwrnod Cofio Trawsryweddol yn cael ei gynnal?
Cafodd Diwrnod Cofio Trawsryweddol ei gynnal gyntaf yn 1999, gan grŵp bach oedd yn cynnwys Gwendolyn Ann Smith, Nancy Nangeroni a Jahaira DeAlto, er mwyn coffáu llofruddiaeth y merched trawsryweddol ddu, Rita Hester yn Allston ym Massachusetts a Chanelle Pickett yn Watertown ym Massachusetts. Ar ôl marwolaeth Rita Hester, sylweddolodd Gwendolyn Ann Smith nad oedd neb o’i ffrindiau’n cofio Chanelle Pickett na’i llofruddiaeth.
Cafodd y Diwrnod Cofio Trawsryweddol cyntaf ei gynnal fis Tachwedd 1999, yn Boston a San Francisco, ac ers hynny mae’n cael ei gynnal ar Dachwedd 20 bob blwyddyn.
Pwy oedd y merched gafodd eu lladd?
Roedd Rita Hester (1963-1998) yn ddynes drawsryweddol Affricanaidd-Americanaidd. Cafodd ei llofruddio yn Allston, Massachusetts, ar Dachwedd 28, 1998. Mewn ymateb i’w llofruddiaeth, arweiniodd galar a dicter at wylnos golau cannwyll ar y dydd Gwener canlynol (Rhagfyr 4), lle cymerodd tua 250 o bobol ran yn y digwyddiad.
Roedd Chanelle Pickett (1972-1995) yn fenyw ddu gafodd ei llofruddio yn Watertown, Massachusetts ar Dachwedd 20, 1995. Ysbrydolodd ei marwolaeth lawer o weithredoedd, gan gynnwys sawl gwylnos a sefydlu grŵp oedd yn ymroddedig i atal trais yn erbyn pobol draws, o’r enw “Remember Chanelle” gafodd ei ffurfio ar Ragfyr 18, 1995.
Roedd Monique Thomas (1963 – 1998) yn ddynes draws ddu gafodd ei llofruddio yn ei chartref yn Dorchester, Massachusetts. Er nad oedd sôn am ei marwolaeth yn aml yn ystod dyddiau cychwynnol y Diwrnod Cofio, mae hi bellach yn cael ei chrybwyll yn aml mewn erthyglau sy’n trafod effaith Diwrnod Cofio Trawsryweddol.
Beth sy’n digwydd yn ystod Diwrnod Cofio Trawsryweddol?
Trwy gydol y dydd, caiff gwylnosau eu cynnal ar draws y byd er mwyn cofio am y rhai sydd wedi’u llofruddio o ganlyniad i drawsffobia. Fel arfer, mae’r Diwrnod Cofio Trawsryweddol yn cynnwys darlleniad o enwau’r rhai fu farw rhwng Hydref 1 y flwyddyn flaenorol hyd at Fedi 30 y flwyddyn ganlynol, a gall gynnwys gweithredoedd eraill megis gwylnosau golau cannwyll, gwasanaethau eglwys pwrpasol, gorymdeithiau, sioeau celf a dangosiadau ffilm.
Beth fydd yn digwydd yng Nghymru?
Dyma restr o’r digwyddiadau ar draws y wlad gan Trans Aid Cymru…
Bydd gwylnos yn cael ei chynnal ym Mangor yn yr Ardd Iachau y tu ôl i Eglwys Sant Iago am 6:30pm heno.
Bydd noson goffa a chyngerdd yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr yng Nghaerdydd am 5 o’r gloch.
Bydd noson goffa yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd hefyd, wrth i Trans Aid Cymru, Not a Phase a ffrindiau ddod at ei gilydd i gofio am y rhai fu farw am 6 o’r gloch.
I’r dwyrain, bydd gwylnos gyda munud o dawelwch yn The Place yng Nghasnewydd am 6 o’r gloch.
Yn y Cymoedd, bydd noson goffa yn Eglwys Sant Elfan yn Aberdâr am 5 o’r gloch.
Ac yn Sir Benfro, bydd Pride Sir Benfro yn cynnal gwylnos yn Sgwâr y Castell yn Hwlffordd am 5pm.