Mae Llywodraeth Cymru’n craffu ar gynlluniau dadleuol i ddymchwel hen ysbyty yn Sir Gaerfyrddin i wneud lle ar gyfer tai.

Mae swyddogion cynllunio ym Mae Caerdydd wedi rhoi cyfarwyddyd i Gyngor Sir Caerfyrddin i’w hatal nhw rhag rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad arfaethedig ar safle hen Ysbyty Mamolaeth Dyffryn Aman yng Nglanaman, oedd wedi cau ei drysau ddeugain mlynedd yn ôl.

Dydy’r cyfarwyddyd ddim yn atal yr awdurdod rhag parhau i brosesu’r cais na’u hatal nhw rhag ei wrthod.

Bydd yn parhau mewn grym hyd nes bod gweinidogion yn penderfynu a fyddan nhw’n ei alw i mewn yn ffurfiol.

Y datblygiad arfaethedig

Mae’r cwmni Thomas Brothers o Rydaman eisiau dymchwel yr ysbyty a dau dŷ, at bwrpas cael mynediad, ar Heol Tirycoed, ac adeiladu 25 o gartrefi newydd, gan gynnwys dau fyngalo.

Thomas Brothers sy’n berchen y tir, ac fe geision nhw gael caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun 28 o dai dair blynedd yn ôl, yn wyneb cryn wrthwynebiad yn lleol.

Gwrthododd Cyngor Sir Caerfyrddin y cais am resymau ecolegol, nodweddion tirweddol, priffyrdd ac ansawdd aer.

Cafodd cynigion blaenorol i godi tai ar y safle eu gwrthod yn 2014 a 2016.

Mae’r cais newydd yn anelu i gadw “nodweddion ecolegol allweddol” a “chylchfeydd rhagod”, yn ôl datganiad dylunio a mynediad gafodd ei gyflwyno ar ran y cwmni, a dyna pam fod tri yn llai o dai.

Dywed y ddogfen fod pryderon ynghylch mynediad a phriffyrdd wedi’u hateb, a bod y datblygiad sydd wedi’i gynllunio’n cael ei ystyried yn un derbyniol yn nhermau ansawdd aer.

Dywed hefyd y byddai tŷ ystlumod yn cael ei godi, ac mae’n argymell plannu coed afalau a dwy berth.

Yn ôl y ddogfen, byddai gofyniad ynghylch tai fforddiadwy, gofod agored a/neu gyfraniad addysg yn cael ei ystyried mewn gwerthusiad o ddichonolrwydd ariannol.

Gwrthwynebiad

Mae nifer o drigolion Glanaman wedi gwrthwynebu’r cynllun newydd, gan gynnwys Dr John Studley, ysgrifennydd grŵp ymgyrchu sy’n ei wrthwynebu.

Dywed fod gan y grŵp 50 o aelodau, a’u bod nhw’n cynrychioli bron i 700 o wrthwynebwyr.

Dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, mewn e-bost i’r Cyngor fod pobol wedi cysylltu â fe am y cais.

Gan gyfeirio at yr hen ysbyty mamolaeth, dywedodd fod “y gymuned yn ymwybodol iawn fod angen gwneud rhywbeth am yr adeilad adfeiliedig ond [yn teimlo] y dylai fod at ddefnydd y gymuned ac nid ar gyfer tai”.

“Mae etholwyr yn teimlo’i fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer canolfan les a chadwraeth gymunedol,” meddai.

Mae Cyngor Cymuned Cwmaman wedi gwrthwynebu’r cais, felly hefyd cynghorydd y ward, Emyr Rees.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Dywed Llywodraeth Cymru fod pob cais galw-i-mewn yn cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau eu hunain, a phrin fod cais yn cael ei alw i mewn yn ffurfiol.

Mae enghreiffitau sy’n eu perswadio nhw i wneud hynny’n cynnwys ceisiadau all gael effaith ehangach y tu hwnt i’r ardal leol, neu sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar ardaloedd o ddiddordeb gwyddonol, cadwraethol neu hanesyddol, neu ardaloedd o bwys o ran eu tirwedd.