Bydd yr Urdd yn cynnig gwyliau i rai o blant mwyaf difreintiedig Cymru yn ystod 2024.
Daw’r cyhoeddiad ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Plant heddiw (dydd Llun, Tachwedd 20), wrth i ystadegau ddangos bod 30% o blant a phobol ifanc Cymru’n byw mewn tlodi.
Mae’r Urdd yn galw ar unigolion, cwmnïau a chymdeithasau i gyfrannu at gynllun ‘Cyfle i Bawb – Cronfa Gwersyll Haf yr Urdd’.
Bwriad y gronfa yw cynnig gwyliau i 250 o blant a phobol ifanc sy’n byw mewn tlodi neu dan amgylchiadau heriol.
Bob haf ers 2019, mae’r Gronfa wedi galluogi i gannoedd o blant a phobol ifanc difreintiedig i fwynhau gwyliau yng ngwersylloedd yr Urdd.
Mwy o blant a phobol ifanc yn cael gwyliau
Mae’r mudiad wedi cynyddu’r darged ar gyfer 2024, ar ôl derbyn y nifer fwyaf erioed o geisiadau am wyliau haf drwy nawdd y Gronfa yn 2023.
Byddai nawdd o £180 yn cyfrannu at gost gwyliau i un plentyn neu berson ifanc ar Wersyll Haf yng Nglan-llyn, Llangrannog, Pentre Ifan neu Gaerdydd.
Mae’r apêl wedi’i groesawu gan rieni’r rheiny fynychodd Wersyll Haf eleni drwy nawdd Cronfa Cyfle i Bawb.
“Dim ond drwy’r Gronfa oedd hi’n bosib i fy mab fynychu ei gwrs preswyl gyntaf erioed,” meddai’r rhiant Cerian Rolls o Aberdâr.
“Cafodd yr amser gorau, gwnaeth llawer o ffrindiau newydd, ac mae eisoes wedi gofyn am gael mynd yn ôl y flwyddyn nesaf.
“Diolch am roi’r cyfleoedd anhygoel yma iddo.”
Effeithiau’r argyfwng costau byw
“Mae’r argyfwng costau byw nid yn unig yn rhoi straen ariannol ar deuluoedd, ond yn effeithio iechyd emosiynol a gweithgarwch corfforol plant a phobl ifanc, hefyd,” meddai Siân Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd.
“Eleni, derbyniodd yr Urdd y nifer fwyaf erioed o geisiadau gan rieni ac ysgolion ers sefydlu ein Cronfa Cyfle i Bawb, ac rydym mor ddiolchgar i bawb a wnaeth hi’n bosibl i ni gynnig gwyliau i dros 100 o blant yn ein gwersylloedd haf.
“Rydym wedi mwy na dyblu ein targed ar gyfer 2024 er mwyn cynnig gwyliau i 250 o blant a phobol ifanc na fyddai’n cael cyfle i fwynhau gwyliau haf fel arall.
“Fel sefydliad ieuenctid cenedlaethol, rydym yn gyson chwilio am ffyrdd i sicrhau nad yw sefyllfa ariannol teulu yn golygu bod rhaid i blentyn golli cyfle.”
Bydd modd i rieni neu ysgolion wneud cais am wyliau ar ran plentyn yn fuan yn 2024.