Bydd angen “sylw brys a diwyro” er mwyn addasu i newid hinsawdd, yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru.
Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i hybu cynnydd o ran addasu i newid hinsawdd, drwy Fil Natur Bositif newydd, gan ymrwymo i dargedau natur statudol uchelgeisiol.
Mae’r elusen hefyd yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd yn gwobrwyo ffermwyr a rheolwyr tir yn briodol am gymryd camau gweithredu sydd o fudd i’r cyhoedd, gan gynnwys addasu i risgiau presennol a risgiau posibl newid hinsawdd yn y dyfodol.
Hinsawdd ar gyfer Newid
Daw’r rhybudd wrth i’r Ymddiriedolaeth lansio adroddiad pwysig, Hinsawdd ar gyfer Newid, sy’n amlinellu am y tro cyntaf sut mae’r elusen yn mynd ati i addasu i’r hinsawdd.
Mae hefyd yn rhoi manylion am sut mae technoleg yn helpu i ganfod bygythiadau i’w lleoedd yn y dyfodol, cyn uwchgynhadledd amgylcheddol COP28.
Yng Nghymru, mae’r elusen gadwraeth yn gofalu am dros 45,000 hectar o gefn gwlad, 160 milltir o arfordir, yn ogystal â rhai o gestyll a gerddi gorau’r wlad.
Mae’r Ymddiriedolaeth eisoes yn cael profiad uniongyrchol o ganlyniadau tywydd eithafol amlach – o law trymach sy’n achosi llifogydd dro ar ôl tro, i dymheredd cynyddol, cyfnodau hir o sychder a mwy o danau gwyllt ar draws ei dirddaliadaeth.
Datgelodd dadansoddiad blaenorol gan GIS Consultants 3Keel y gallai bron i dri chwarter (71%) o’r lleoedd gaiff eu gwarchod gan yr elusen ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fod yn wynebu risg ganolig neu uchel o beryglon hinsawdd erbyn 2060.
‘Hanfodol’
“Rydyn ni eisoes yn gweld effeithiau newid hinsawdd yn y llefydd rydyn ni’n gofalu amdanyn nhw,” meddai Helen Pye, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
“Nid yw newid hinsawdd yn rhywbeth sy’n digwydd dramor nac yn y dyfodol, mae’n digwydd yng Nghymru ar hyn o bryd.
“Mae’n gofyn am ein sylw brys a diwyro.
“Mae addasu i newid hinsawdd yn hanfodol os yw’r Ymddiriedolaeth am gyflawni ei phwrpas sylfaenol o ofalu am leoedd arbennig yng Nghymru i bawb, am byth.
“Dyna pam rydyn ni’n galw am Fil Natur Bositif yng Nghymru fel blaenoriaeth.
“Gydag un o bob chwe rhywogaeth mewn perygl o ddiflannu’n llwyr yng Nghymru, mae targedau natur statudol yn hanfodol i gefnogi adferiad a chydnerthedd byd natur, gan gynnwys ei allu i addasu i newid hinsawdd.
“A dyna pam mae angen Cynllun Ffermio Cynaliadwy arnom sy’n gwobrwyo ffermwyr a rheolwyr tir yn briodol am gymryd camau gweithredu sydd o fudd i bob un ohonom, drwy helpu ein tiroedd, ein dyfroedd a’n cefn gwlad i addasu i’r hinsawdd newidiol hon a helpu byd natur i ffynnu.”
Map Peryglon
Er mwyn helpu’r elusen i nodi lle mae angen addasu, maen nhw wedi datblygu adnodd bwrdd gwaith Map Peryglon ymhellach.
Cafodd ei lansio am y tro cyntaf yn 2021, gan ychwanegu haenau newydd i nodi’r risg i’w lleoedd o fygythiadau fel tanau gwyllt, dyddiau glaw, gwyntoedd cryf a sychder.
Gan ddefnyddio’r adnodd hwn ac arsylwadau ar lawr gwlad, mae’r Ymddiriedolaeth wedi cynhyrchu darlun manwl o sut y gallai Castell a Gardd Penrhyn ym Mangor edrych yn 2060 os na chaiff camau addasu eu cymryd.
Mae’r modelu hinsawdd hwn yn datgelu tirwedd wahanol, ac yn rhagweld mai’r prif heriau sy’n wynebu’r ardd fydd tymereddau uwch, gwyntoedd cryf a sychder.
Bydd tîm yr ardd nawr yn defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu cynllun plannu sy’n awgrymu sut y gallai dyfodol wedi’i addasu edrych.
“Roedd yr ardd yng Nghastell Penrhyn bob amser i fod yn flwch gemwaith, yn llwyfan ar gyfer yr hyn y gellid ei dyfu yn y rhan hon o Gymru,” meddai Patrick Swan, Ymgynghorydd Gerddi Cymru.
“Os na fyddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i addasu’r ardd dros y degawdau nesaf, byddwn yn ei chael hi’n anodd darparu’r lefel o gyflwyniad ac arddangos y mae gardd â’r arwyddocâd hwn yn ei mynnu.
“Bydd addasu’r ardd, gyda phalet gwahanol o blanhigion, ond yn unol â’i chymeriad a’i harwyddocâd hanfodol, yn rhoi dyfodol cyraeddadwy ar waith ar gyfer y dirwedd hon na fyddai gennym fel arall.”
Annog mwy o gefnogaeth
Dywed yr Ymddiriedolaeth nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain o ran yr heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth fynd i’r afael ag effeithiau newid hinsawdd.
Mae’r elusen hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ddarparu mwy o gefnogaeth i’r sector twristiaeth a threftadaeth, i ddeall a pharatoi ar gyfer y risgiau a’r cyfleoedd gaiff eu hachosi gan newid hinsawdd.
“Er mwyn cynllunio, paratoi ac addasu i’n hinsawdd sy’n newid, mae angen gwell dealltwriaeth arnom o’r peryglon sy’n ein hwynebu,” meddai Keith Jones, Uwch Ymgynghorydd Cenedlaethol ar Newid Hinsawdd yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
“Mae’r map peryglon yn tynnu sylw at y risg er mwyn i ni allu trafod gyda thimau eiddo beth maen nhw’n ei weld mewn termau real i asesu realiti’r risgiau hyn – yn fawr neu fach – a pharatoi yn unol â hynny.
“Mae’r hyn rydyn ni’n ei brofi yn cael ei deimlo ledled y wlad – gan bobol, cymunedau, busnesau a sefydliadau ym mhob man, ac rydyn ni mewn lle da i gydweithio, rhannu’r hyn a ddysgwn a dod o hyd i ffyrdd o fynd i’r afael â’r heriau rydyn ni’n eu hwynebu.”
Mae’r elusen wedi datgelu’r dull y bydd yn ei ddefnyddio nawr tuag at addasu i’r hinsawdd [5], gan gynnwys:
- sicrhau bod camau gweithredu’n cael eu sbarduno gan ymchwil a thystiolaeth
- datblygu meddylfryd cydnerthedd
- dysgu o’r gorffennol
- gweithio gyda natur ac nid yn ei erbyn
- gweithio mewn partneriaeth ag eraill
Mannau niferus ac amrywiol
Mae’r mannau lle mae’r Ymddiriedolaeth eisoes yn mabwysiadu dull addasu ar draws Cymru yn niferus ac yn amrywiol, gan gynnwys drwy ddefnyddio dulliau traddodiadol, fel hongian llechi ar dalcenni bwthyn Dyffryn Mymbyr yn Eryri i helpu i atal dŵr rhag treiddio yn sgil glaw sy’n cael ei hyrddio.
Mae erydiad arfordir Gwynedd yn dinistrio bryngaer hynafol Dinas Dinlle, gyda rhannau eisoes wedi’u colli i’r môr, ynghyd â’r gweddillion archeolegol sydd wedi’u claddu ynddi.
Wrth i’r newid hinsawdd gyflymu’r erydu, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn gweithio gyda phartneriaid i gofnodi cymaint o wybodaeth â phosibl am y safle.
Yng Nghastell y Waun, mae’r coed hynafol sy’n leinio llwybrau a ffyrdd yr ystâd yn nodwedd allweddol.
Ond mae coed fel hyn yn arbennig o agored i wyntoedd cryfion a stormydd.
Yn yr achosion gwaethaf, mae modd iddyn nhw gael eu dadwreiddio’n llawn a’u chwythu drosodd.
Mae gan staff y Waun gynllun rheoli manwl i gadw’r ardal yn ddiogel gan gynnwys ‘trothwy cau’, sydd wedi hen ennill ei blwyf, yn seiliedig ar gyflymder y gwynt.
Er bod y patrwm cau hwn wedi aros yn weddol gyson, mae’r tîm eiddo wedi adrodd bod stormydd yn mynd yn fwy dwys, gyda mwy o botensial i achosi difrod.
Mae’r tîm yng Nghastell y Waun yn dod o hyd i ffyrdd o leihau effeithiau’r stormydd, gan gadw’r cydbwysedd bregus rhwng galluogi pobol i ymweld yn ddiogel a diogelu naws y coed hynafol.
Yn Eryri, mae planhigion Arctig-Alpaidd arbenigol yn cael trafferth gyda chyfres o heriau, gan gynnwys llygredd, aflonyddwch a phori amhriodol, a phroblemau hanesyddol fel gorgasglu yn oes Fictoria.
Mae eu goroesiad yn cael ei wneud yn anoddach yn sgil tymheredd uwch.
Wrth i’r hinsawdd gynhesu, bydd yn rhoi rhagor o bwysau ar allu planhigion prin i ledaenu.
Nawr, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bartner cyflenwi lleol allweddol yn ‘Natur am Byth!’
Mae prosiect Tlysau Mynydd Eryri, dan arweiniad Plantlife, yn lluosogi planhigion prin, fel y tormaen siobynnog, mewn meithrinfa, ac yn galluogi eu poblogaethau i fod yn fwy gwydn.