Mae’r Gymdeithas wedi bod yn cynnal ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar Werth’ ers degawdau. Un o brif arweinwyr yr ymgyrch yw Ffred Ffransis, sydd nawr wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu mynd ar streic lwgu – neu ymprydio – yn y tridiau cyn y rali er mwyn tynnu sylw at yr achos.
Ond nid yw ymprydio yn beth newydd i’r ymgyrchydd yma – dyn a gafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar yn 1971 am ei ran yn yr ymgyrch dros sianel Gymraeg.
Peth pwysig hefyd yw cofio ei fod yn fab-yng-nghyfraith i Gwynfor Evans, gwleidydd Plaid Cymru a wnaeth fygwth mynd ar streic lwgu dros sianel Gymraeg yn 1980 – stori sy’n destun ffilm fawr newydd, Y Sŵn.
Dyma ychydig o hanes Ffred Ffransis yng nghyswllt y Gymdeithas ac o ran y weithred ymprydio.
Pryd a ble mae’n ymprydio?
Ddydd Mercher yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn arwain gorymdaith at stondin Llywodraeth Cymru, ac yn cynnal rali ‘Nid yw Cymru ar Werth’ yn galw am Ddeddf Eiddo. Y siaradwyr yn y rali fydd Cynghorwyr Sir Gwynedd, Rhys Tudur ac Elin Hywel; cyn-ymgeisydd y Blaid Lafur yn yr etholaeth, Cian Ireland; a’r gantores Catrin O’Neill o Siarter Cartrefi Cymru.
Pwy yw Ffred Ffransis?
14 Mehefin 1948 – Frederick Sefton Francis yn cael ei eni ym Mae Colwyn, ond yn y Rhyl y treuliodd ran fwyaf o’i blentyndod.
Cafodd ei fagu ar aelwyd ddi-Gymraeg, ond dysgodd ychydig o Gymraeg yn yr ysgol gynradd a dod yn rhugl ar ôl mynd i Brifysgol Cymru, Aberystwyth. Daeth yn rhan o’r bywyd Cymraeg ac yn ymgyrchydd brwd dros hawliau’r Gymraeg.
Pa ran chwaraeodd Ffred Ffransis yn y frwydr dros yr iaith yn y 1960au a’r 1970au?
Yn 1969, cafodd ei garcharu yn Abertawe am wythnos ar gyhuddiad o gicio plismon, wrth i’r heddlu lusgo haid o ymgyrchwyr allan o Lys Aberteifi, wedi achosion arwyddion yn erbyn swyddogion y Gymdeithas.
Ef oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith, yn gweithio yn y swyddfa gafodd ei sefydlu uwchben Siop y Pethe yn Aberystwyth tua Hydref 1970.
Fis Chwefror 1971, roedd yn rhan o Daith Gerdded dros Sianel Gymraeg o Lanelwy i Fangor. Mae ffotograff gan Geoff Charles o Ffred yn Llanelwy yn sgwrsio gyda Lewis Valentine, gweinidog gafodd ei garcharu gyda Saunders Lewis a D J Williams am losgi Ysgol Fomio Penyberth yn 1936. Dywedodd Lewis Valentine yn Tafod y Ddraig yn 1967, “Yr wyf yn llwyr gefnogi amcanion y Gymdeithas a’i dulliau, ac mae ymarweddiadau y Gymdeithas hon yn codi fwy ar fy nghalon na dim sy’n digwydd yng Nghymru heddiw.”
Achos yr Wyth yn Abertawe fis Mai 1971 oedd penllanw blynyddoedd o falu arwyddion ffyrdd Saesneg. Dygwyd cyhuddiad o gynllwyn yn erbyn wyth o aelodau amlycaf Cymdeithas yr Iaith – Ffred Ffransis, Dafydd Iwan, Rhodri Morgan, Gwilym Tudur, Ieuan Bryn, Ieuan Wyn, Gronw ab Islwyn a Robat Gruffudd. Cawson nhw eu cyhuddo o gynllwynio i ddifrodi, tynnu neu ddinistrio arwyddion ffyrdd Saesneg yn ystod rali yn Rhagfyr 1970.
Bu’r achosion traddodi yn Llys Ynadon Aberystwyth a Llys y Goron Caerfyrddin, a’r achos ei hun yn Llys y Goron Abertawe. Ar y dydd Sadwrn cyn yr achos, cafodd un o ralïau mwyaf ei maint yn hanes brwydr yr iaith ei chynnal; tua 1,500 o bobol o flaen Neuadd y Ddinas. Cafodd 40 o bobol eu harestio a thua 18 eu carcharu dros bythefnos yr achos am darfu ar yr heddwch.
Fe wnaeth Ffred Ffransis a Gwilym Tudur wrthod cydnabod awdurdod y llys, a chael eu hanfon i’r celloedd dros gyfnod yr achos. Doedd eu hymddygiad ‘anurddasol’ ddim wedi plesio Saunders Lewis, Llywydd Cymdeithas yr Iaith. Fe wnaeth y Barnwr Mars-Jones ddedfrydu’r wyth i gyfnodau gohiriedig o garchar. Yn y llyfr I’r Gad (Y Lolfa, 2013), mae Robat Gruffudd yn dweud fod Ffred Ffransis yn dymuno herio’n syth gyda gweithred, ond “mewn neu mas o garchar, byddai’r Gymdeithas yn ddiarweiniad”
Fis Hydref 1971 yn Llys y Goron yr Wyddgrug, roedd achos cynllwyn yn erbyn 17 o aelodau Cymdeithas yr Iaith; 14 ohonyn nhw am ddringo mastiau teledu a thri am greu difrod yn stiwdios teledu Granada. Cafodd Goronwy Fellows a Myrddin Williams flwyddyn o garchar, ond cafodd Ffred Ffransis ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar, y ddedfryd drymaf erioed i aelod o Gymdeithas yr Iaith. Dyma danio blynyddoedd o ymgyrchu am sianel Gymraeg wrth i gefnogwyr y Gymdeithas ddringo a meddiannu mastiau teledu a gwrthod talu am eu trwyddedau teledu.
Ar Ionawr 30, 1973, dyma Ffred Ffransis yn cael ei ryddhau o garchar Walton wedi dedfryd o ddwy flynedd o garchar. Roedd cynhadledd i’r wasg y tu allan i’r carchar y diwrnod hwnnw. Wrth gofio’r diwrnod 50 mlynedd yn ddiweddarach ar ei gyfrif Facebook, dywedodd, “Finnau am gyhoeddi ymgyrch ddifrifol o dri mis o weithredu uniongyrchol dros sianel deledu Gymraeg. Ond y wasg â mwy o ddiddordeb mod i wedi dyweddïo â Meinir tra roeddwn i ar ganol fy nedfryd.”
Priododd Ffred â Meinir Ceridwen, merch i Gwynfor a Rhiannon Evans, Dalar Wen, Llanybydder, a chwaer i Dafydd Prys, Alcwyn Deiniol, Branwen Eluned, Guto Prys, Meleri Mair a Rhys Dyrfal. Mewn cyfweliad yn 1956, daeth yn hysbys mai hoff ddywediad Beiblaidd Gwynfor oedd “Ffrwythwch ac amlhewch a llenwch y ddaear”.
Mae gan Ffred a Meinir saith o blant ac 18 o wyrion, ac mae nifer ohonyn nhw yn ymgyrchwyr amlwg gyda Chymdeithas yr Iaith, ac mae e a’i deulu’n rhedeg cwmni crefftau masnach deg Cadwyn, ac wedi bod â stondin i dros 50 o Eisteddfodau Cenedlaethol.
Beth am bwysigrwydd ymprydio i Ffred Ffransis a’r frwydr dros yr iaith?
Yn 1969, dioddefodd Ffred Ffransis fwydo gorfodol yng ngharchar Abertawe. Ar ôl cael ei garcharu gyda Gwilym Tudur am wythnos ar gyhuddiad o gicio plismyn, penderfynodd y ddau beidio â chydweithredu mewn protest. Dyma’r ddau yn penderfynu na fyddai’r swyddogion yn rhoi llawer o sylw i rywun ar streic lwgu arferol, a dewis mynd heb fwyd na diod. Ar ôl tridiau, cawson nhw eu hanfon i’r adain ysbyty a’u strapio gerfydd eu garddyrnau mewn cadair freichiau, a chynorthwyydd y meddyg yn stwffio peipen fain hir i lawr eu corn gwddw. Dyma’r meddyg yn tywallt llaeth twym drwyddi, ac roedd yn rhaid iddyn nhw helpu drwy lyncu’r beipen neu dagu. Roedd Gwilym Tudur, yn ei lyfr ‘Wyt Ti’n Cofio?’, yn cyfri eu bendithion mai peipen blastig oedd hi, yn wahanol i’r rhai gwydr fyddai’n torri weithiau – daeth y dull hwnnw i ben wedi i un o’r Suffragettes farw. Cawson nhw yr un driniaeth y diwrnod a’r noson wedyn. Yn y diwedd, dyma’r ddau yn cytuno i yfed y llefrith, wedi gwneud eu pwynt.
Ar ôl colli ei achos, aeth Ffred Ffransis ar ympryd arall yn ei gartref.
Ar Fai 6, 1980, cyhoeddodd Gwynfor Evans ei fwriad i ymprydio hyd at farwolaeth o Hydref 6 y flwyddyn honno, oni bai bod y Lywodraeth Geidwadol yn Llundain yn cyflawni ei haddewid i sefydlu sianel deledu Gymraeg. Daeth 500 i wrando ar Gwynfor yn areithio ar Faes yr Eisteddfod, a bu ymgyrchu wythnosol.
Yn 1981, bu farw deg o garcharorion Gweriniaethol ar ympryd yng ngharchar yn Iwerddon, digwyddiad a wnaeth argraff ddirdynnol ar ymgyrchwyr Cymdeithas yr Iaith.
30 mlynedd yn ddiweddarach yng Ngwynedd, cyhoeddodd Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar addysg erbyn hyn, y bydd yn mynd heb ddŵr na bwyd am 50 awr cyn cyfarfod Cyngor Gwynedd i drafod argymhelliad i gau Ysgol y Parc, y Bala. Ei nod oedd dangos fod “perygl i fywyd y gymuned wledig Gymraeg”.
Yn 2015, aeth dros ugain o bobol ar ympryd yn rhan o ymgyrch i alw am wella’r Bil Cynllunio er lles y Gymraeg – yn eu plith roedd Mererid Hopwood, Jamie Bevan, Toni Schiavone, Cen Llwyd a Cleif Harpwood.
Fis Mawrth eleni, cafodd ffilm Y Sŵn am fygythiad Gwynfor Evans i ymprydio ei chyhoeddi. Gwion Aled Williams sydd yn actio Ffred Ffransis yn y ffilm.
Fis diwethaf, cyhoeddodd Ffred Ffransis, aelod o weithgor Nid yw Cymru ar Werth y Gymdeithas, ei fod am ymprydio am 75 awr – o ddydd Sul, Awst 6 hyd at ddydd Mercher, Awst 9.
Beth mae Ffred Ffransis yn ei ddweud?
“Nid gweithred yn erbyn y llywodraeth yw hwn ond anogaeth i’n pobol alw ar y llywodraeth am weithredu tra bo dal cyfle.
“Ar derfyn fy ympryd, bydda i’n cael dychwelyd i fwyta tra bydd miloedd o gyd-Gymry’n colli prydau oherwydd argyfwng costau byw, a bydda i’n dychwelyd i gartre’ tra bo miloedd o’m cyd-Gymry’n cael eu gorfodi allan o’u cymunedau o ddiffyg cartrefi.
“Dyw Cymru a’r Gymraeg ddim yn gallu goroesi yn y drefn bresennol.
“Cyflwyno Deddf Eiddo, seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol, fydd un o’r camau cyntaf at greu trefn newydd lle gall Cymru fod yn esiampl i’r byd.”