Mae gan dîm pêl-droed merched Cymru ddwy gêm fawr dros yr wythnos nesaf, wrth iddyn nhw anelu i osgoi’r gwymp o Gynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Maen nhw’n herio Gwlad yr Iâ yn Stadiwm Dinas Caerdydd heno (nos Wener, Rhagfyr 1), cyn croesawu’r Almaen i Stadiwm Swansea.com nos Fawrth (Rhagfyr 5).
Ond beth sydd angen iddyn nhw ei wneud yn y ddwy gêm sydd i ddod?
Mae Cymru’n anelu am y trydydd safle yng Nghynghrair A3, ac i osgoi’r gwymp.
Bydd yn rhaid iddyn nhw guro Gwlad yr Iâ, fel eu bod nhw ar yr un nifer o bwyntiau ar drothwy’r gêm olaf.
Os na fyddan nhw’n llwyddo i guro Gwlad yr Iâ, byddan nhw’n cwympo i Gynghrair B ar gyfer ymgyrch ragbrofol Ewro 2025, ond os ydyn nhw’n ennill o ddwy gôl neu fwy, byddan nhw’n codi i’r trydydd safle ar sail perfformiadau’r ddau dîm yn erbyn ei gilydd.
Bydd yn rhaid iddyn nhw ragori ar Wlad yr Iâ er mwyn dal eu gafael ar y trydydd safle.
Os ydyn nhw’n curo Gwlad yr Iâ o un gôl, bydd rhaid iddyn nhw ragori ar ganlyniad Gwlad yr Iâ yn y gêm olaf er mwyn gorffen yn drydydd.
Pe bai Cymru’n gorffen yn drydydd, byddan nhw’n mynd i’r gemau ail gyfle dros ddau gymal fis Chwefror er mwyn aros yng Nghynghrair A ar gyfer ymgyrch ragbrofol Ewro 2024.
Bydd yr enwau’n cael eu tynnu o’r het ar Ragfyr 11.