Mae fersiwn Gymraeg o’r wefan FixMyStreet bellach ar gael…
Gwefan ac ap yn seiliedig ar fap yw hi, sy’n helpu pobol ledled y Deyrnas Unedig i roi gwybod i’w hawdurdod lleol am broblemau sy’n gofyn am sylw, megis tyllau yn y ffyrdd, lampau stryd wedi torri a llu o broblemau eraill all fod yn codi o ddydd i ddydd.
Caiff adroddiadau am broblemau eu hadrodd ar y wefan i bawb gael eu gweld.
Tra bod gan gynghorau lleol eu gwefannau eu hunain ar y cyfan, mae FixMyStreet yn mynd i’r afael â’r anhawster posib sy’n codi wrth i adroddwr fethu â dod o hyd i’r adran berthnasol yn eu Cyngor.
Gan ddefnyddio meddalwedd MapIt, mae FixMyStreet yn paru cod post defnyddiwr a chategori’r broblem maen nhw’n adrodd amdani fel bod yr awdurdod lleol cywir yn cael eu hysbysu.
Dyma ragor o wybodaeth am y wefan…
Beth yw FixMyStreet? Ai gwefan cyngor yw hi?
Nage, nid gwefan cyngor yw hon, ond mae FixMyStreet yn anfon eich adroddiadau yn uniongyrchol at eich cyngor lleol. Maen nhw’n eu cyhoeddi ar-lein, fel y gall eraill yn y gymuned ddarllen, trafod, a chynnig cyngor lle bo angen.
Pwy yw FixMyStreet a pham fod ganddyn nhw wefan?
Gwefan annibynnol yw FixMyStreet. Cafodd ei hadeiladu gan yr elusen mySociety. Roedden nhw eisiau ei gwneud hi’n haws i adrodd problemau yn eich cymuned, hyd yn oed os nad ydych chi’n gwybod at bwy y dylai’r adroddiadau hynny gael eu hanfon.
Y cyfan sy’n rhaid ei wneud yw teipio cod post – neu adael i’r safle eich lleoli yn awtomatig – a disgrifio’r broblem. Yna, caiff eich adroddiad ei ddanfon at y bobol sydd yn gallu trwsio’r broblem yn rhinwedd eu swydd.
Mae FixMyStreet yn gweithredu dros gyfan Y Deyrnas Gyfunol gyfan. Dim ots lle ydych chi, yr hyn sy’n rhaid cofio yw’r cyfeiriad FixMyStreet.com.
A yw cynghorau’n darllen neu’n gweithredu ar adroddiadau FixMyStreet?
Ydyn. Mae adroddiadau sy’n cael eu hanfon drwy FixMyStreet yn cyrraedd yr un mewnflwch ag adroddiadau sy’n cael eu danfon mewn unrhyw fodd arall.
Mae cynghorau hynod ddeallus yn integreiddio yn uniongyrchol, fel bod modd darparu manylion yn uniongyrchol i’w systemau, sy’n arbed amser ac arian iddyn nhw.
Sut mae cysylltu â FixMyStreet?
Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon, gan sicrhau yn gyntaf nad oes Cwestiwn Cyffredin sy’n ateb yr ymholiad yn gyntaf, oherwydd mae hynny’n arbed amser i bawb.
Oes yna ap FixMyStreet?
Oes, mae yna ap ar gyfer iOS ac ap Android. Os nad yw eich ffôn yn gymwys i’r ap, rhowch gynnig ar FixMyStreet trwy borwr eich ffôn symudol – dylai weithio’n dda.
Sut ydw i’n creu adroddiad?
Ewch i’r hafan a nodwch côd post neu enw lle. Ddim yn siŵr ble ydych chi? Dewiswch ‘defnyddiwch fy lleoliad’. Rhowch y pin ar y map i ddangos ble yn union mae’r broblem, a nodwch ddisgrifiad o’r mater cyn danfon. Gwiriwch eich mewnflwch e-bost am ein e-bost i gadarnhau, cliciwch ar y ddolen, a dyna ni.
Beth ddylwn i – neu na ddylwn i – adrodd amdano?
Yn bennaf, mae FixMyStreet ar gyfer adrodd pethau sydd wedi torri, yn frwnt, wedi’u difrodi neu eu gadael, ac mae angen eu trwsio, glanhau neu glirio – fel graffiti, baw cŵn, tyllau yn y ffordd neu oleuadau stryd sydd ddim yn gweithio.
Gweler Rheolau’r Safle ar gyfer pethau na ddylech chi adrodd amdanyn nhw na’u cynnwys yn eich adroddiad.
Materion brys: Am broblemau a allai achosi perygl uniongyrchol i bobl; megis gollyngiadau nwy neu goed yn cwympo, cysylltwch â’ch awdurdod lleol neu’r cwmni cyfleustodau priodol, neu’r gwasanaeth brys yn uniongyrchol – ar eich ffôn os yn bosibl.
Yn aml, caiff adroddiadau eu hanfon at adrannau gwasanaethau glanhau neu gynnal a chadw priffyrdd, felly gall defnyddio FixMyStreet ar gyfer materion brys arwain at oedi cyn i’ch adroddiad gyrraedd yr adran gywir.
Pethau nad ydyn nhw’n gorfforol: Ar gyfer materion fel llygredd sŵn, cyfarth cŵn, tanau, biniau olwyn coll neu gasgliadau sbwriel wedi eu methu, cynigion ar gyfer bympiau cyflymder neu groesfannau i gerddwyr, neu gwyno am yr Awdurdod Lleol ei hun, cysylltwch â’r cyngor yn uniongyrchol.
Ydy’r adroddiadau yn gyhoeddus? Pam?
Ydyn maen nhw. Pan fyddwch chi’n cyflwyno eich adroddiad, caiff ei anfon i’r awdurdod lleol, ac rydym yn ei gyhoeddi ar y wefan hefyd. Bydd eich cyngor yn ymateb yn uniongyrchol i chi, ac o hynny ymlaen, mae eich gohebiaeth yn un i un.
Am y rheswm yna, awgrymir nad ydych yn cynnwys manylion personol fel cyfeiriadau a rhifau ffôn nes eich bod yn cyfathrebu’n uniongyrchol.
Mae sawl mantais wrth adrodd ar-lein. Gall eraill weld yn gyflym beth sydd eisoes wedi ei adrodd, felly mae’n atal y cyngor rhag gorfod gweithio ar ddyblygiadau.
Mae hefyd yn creu darlun o gymunedau lleol, fel ei bod hi’n hawdd gweld beth yw’r problemau cyffredin mewn ardal benodol, a pha mor gyflym maen nhw’n cael eu trwsio. Gall trigolion lleol bori, darllen a rhoi sylwadau ar broblemau – ac efallai cynnig datrysiad hyd yn oed.
Pam fod rhaid rhannu enwau a chyfeiriadau e-bost?
Am nifer o resymau: yn gyntaf, mae angen eich cyfeiriad e-bost arnom fel bod yr awdurdod lleol yn gallu cysylltu gyda chi.
Hefyd, mae negeseuon sy’n cael eu danfon trwy FixMyStreet yn mynd i systemau’r Awdurdod lleol. Gan amlaf, mae eich enw llawn yn faes gorfodol, ac mae’n bosib y bydd eich adroddiad yn cael ei wrthod hebddo.
Yn olaf, pan fydd gofyn i ddefnyddwyr ddarparu manylion cyswllt, mae tôn eu gohebiaeth yn tueddu i fod yn fwy adeiladol ac yn llai sarhaus.
Dydy cyfeiriadau e-bost ddim yn cael eu cyhoeddi, ac mae modd dewis cyflwyno adroddiad yn ddienw trwy addasu’r blwch “dangos fy enw’n gyhoeddus” cyn cyflwyno. Bydd hyn yn golygu nad yw enw’n cael ei arddangos ar wefan FixMyStreet, er y bydd yn cael ei rannu gyda’r awdurdod lleol.
Os ydych chi am newid adroddiad wnaethoch chi yn y gorffennol i fod yn un dienw, mewngofnodwch i’ch cyfrif, lle bydd opsiwn ‘Cuddio’ch enw?’ ar yr adroddiad.