Yr wythnos hon, fe gollodd yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone achos llys tros docyn parcio uniaith Saesneg.

Roedd llys yn Aberystwyth wedi dyfarnu yn ei erbyn, ar ôl i’r cwmni preifat One Parking Solution ddwyn achos er mwyn hawlio costau.

Yn ôl y barnwr yn y llys, doedd dim sail cyfreithiol i orfodi’r cwmni i ddarparu gwasanaeth Cymraeg, ond mae Toni Schiavone yn mynnu bod hyn yn amlygu “diffyg difrifol” yn y ddeddfwriaeth sy’n amddiffyn hawliau siaradwyr Cymraeg.

Mae wedi arwain at alwadau eto am ymestyn y Ddeddf Iaith i gynnwys y sector preifat.

Beth ydy cefndir yr achos?

Derbyniodd Toni Schiavone y rhybudd gwreiddiol ym Medi 2020, a hynny am barcio mewn maes parcio preifat yn Llangrannog.
Ond gwrthododd e dalu, gan na dderbyniodd y rhybudd yn Gymraeg neu’n ddwyieithog, er iddo fe anfon dau lythyr at y cwmni, yn ogystal â’u ffonio.
Cafodd y ddau achos cyntaf eu taflu allan o’r llys o ganlyniad i faterion technegol, ond mewn gwrandawiad ar Ionawr 26, enillodd One Parking Solution apêl i barhau i’w erlyn, wedi i’r barnwr ddyfarnu nad oedd sail i daflu’r ddau achos cyntaf o’r llys.
Dyma oedd y pedwerydd tro i Toni Schiavone fod yn y llys.

Beth oedd dadl Toni Schiavone?

Dywedodd Toni Schiavone y byddai wedi costio tua £60 i gyfieithu’r hysbysiad, tra bod One Parking Solution wedi talu mwy na £14,000 mewn costau cyfreithiol i ddod â’r achos i’r llys dros gyfnod o dair blynedd.
“Mae’r Gymraeg yn Iaith swyddogol a chyfartal yng Nghymru, ac mae gennym ni fel siaradwyr Cymraeg hawliau yn ôl y gyfraith, ac mewn egwyddor, a dylid parchu hynny,” meddai Toni Schiavone.
“Mae’r cais am Daleb Cosb Parcio yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog yn rhesymol ac yn ymarferol.
“Byddai wedi costio tua £60 i’w gyfieithu.
“Gallai’r achos yma fod wedi cael ei ddatrys yn hawdd iawn ac yn gyflym iawn trwy ddarparu Taleb Cosb Parcio yn y Gymraeg neu yn ddwyieithog.
“Ydy peidio gwneud hynny yn dangos rhagfarn yn erbyn y Gymraeg? Yn fy marn i, yndi.”

Beth oedd ymateb y barnwr yn yr achos?

Dywedodd y Barnwr Rhanbarthol Lowri Williams fod Toni Schiavone wedi cyflwyno achos “gonest ac egwyddorol”, ac wedi dangos “ymroddiad di-wyro i’r Gymraeg a’r achos dros yr iaith”.
Roedd hi’n cytuno y byddai wedi bod yn haws pe bai One Parking Solution wedi cyfieithu’r hysbysiad o’r cychwyn.
Ond ychwanegodd y barnwr nad oedd gofyniad cyfreithiol ar y cwmni i gyhoeddi’r hysbysiad yn Gymraeg gan fod y ddeddfwriaeth yn berthnasol i gyrff cyhoeddus ac nid i gwmnïau preifat.
Dywedodd nad oes unrhyw beth yn Neddf Iaith 1967, Deddf Iaith 1993, na Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 i orfodi’r cwmni parcio i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.

Beth oedd yr ymateb i’r dyfarniad?

Mae’r dyfarniad wedi amlygu’r angen i ymestyn y Ddeddf Iaith, yn ôl ymgyrchwyr iaith.
Dywedodd Toni Schiavone bod yr achos yn dangos “diffyg difrifol yn y ddeddfwriaeth fel ag y mae”. Er i Gomisiynydd y Gymraeg annog y cwmni i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg, doedd hynny “yn amlwg ddim yn ddigon,” meddai.
Mae gan Gomisiynydd y Gymraeg yr hawl i roi dirwy o hyd at £5,000 i gyrff cyhoeddus sydd ddim yn darparu gwasanaethau yn Gymraeg a Saesneg. Ond nid yw hyn yn berthnasol i gwmnïau preifat yng Nghymru.

Yn ôl Siân Howys, cadeirydd Grŵp Hawl Cymdeithas yr Iaith, mae’r dyfarniad yn dangos nad oes gan y Gymraeg statws cyfartal yng Nghymru, “er gwaethaf honiad Llywodraeth Cymru”.
“Mae’r farnwraig wedi gwneud ei gwaith yn drylwyr a chanfod nad oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth sy’n mynnu bod hawl Toni i ddefnyddio’i iaith ei hun yn ei wlad ei hun yn cael ei barchu,” meddai.
“Beth sy’n amlwg felly yw bod angen i Lywodraeth Cymru gywiro’r diffyg difrifol sy’n y ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau bod pobol Cymru yn gallu defnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd o’u bywydau.”

Beth mae Llywodraeth Cymru’n dweud?

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rydym am weld pob sector yn cynyddu eu defnydd o’r iaith,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Mae cefnogi busnesau i ddatblygu eu gwasanaethau Cymraeg yn flaenoriaeth i ni, ac rydym yn canolbwyntio ar weithredu mewn ffordd sy’n cael effaith ystyrlon ac ymarferol ar hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.

“Fel rhan o hyn, rydym yn dilyn rhaglen waith ar gyfer cyflwyno safonau’r Gymraeg i fwy o sectorau dros y blynyddoedd nesaf.
“Rydym yn falch fod Comisiynydd y Gymraeg wedi gweithio’n llwyddiannus gyda rhai cwmnïau parcio mawr i gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg.”

Beth sy’n digwydd rŵan?

Mae Toni Schiavone wedi cael gorchymyn fod yn rhaid talu’r rhybudd o £100, yn ogystal â £70 ar gyfer costau gweinyddol, £11.90 o log, ac £85 ar gyfer ffi y llys, o fewn 21 diwrnod.
Mae Toni Schiavone yn dweud y bydd yn parhau i wrthod talu’r ddirwy hyd nes ei fod yn derbyn copi o’r rhybudd gan y cwmni yn Gymraeg. Cafodd ei hawl i apelio ei wrthod.