Kristian Phillips ar yr asgell
Ar ôl curo Caerlŷr yng nghystadleuaeth Cwpan LV y penwythnos diwethaf mae’r Sgarlets yn gobeithio am ganlyniad tebyg yn erbyn Connacht nos yfory ym Mharc y Sgarlets.

Yn dychwelyd i dîm y sosban mae Josh Turnbull, Rob McCusker,  Samson Lee a George Earle.

‘‘Mae wedi bod yn gadarnhaol i weld y bechgyn yn ymarfer yn galed a’r ôl y fuddugoliaeth y penwythnos diwethaf,” meddai Simon Easterby, prif hyfforddwr y Sgarlets.

“Mae’r chwaraewyr ifanc wedi dangos brwdfrydedd ac mae hynny’n wych i’r garfan.”

Mae’r Sgarlets yn bumed yng nghynghrair y RaboDirect Pro 12 ar hyn o bryd, ac yn anelu am le yn y pedwar uchaf a rownd gyn-derfynol y gynghrair.

Tîm y Sgarlets yn erbyn Connacht, nos Wener am 7.30:

Olwyr – Gareth Owen, Andy Fenby, Nick Reynolds, Adam Warren, Kristian Phillips, Owen Williams a Aled Davies.

Blaenwyr – Phil John, Emyr Phillips, Samson Lee, George Earle, Johan Snyman, Rob McCusker (Capten), Josh Turnbull a Kieran Murphy.

Eilyddion – Kirby Myhill, Shaun Hopkins, Deacon Manu, Jake Ball, Lewis Rawlins, Gareth Davies, Aled Thomas a Gareth Maule.