Mae capten Cymru Sam Warburton yn colli’r gêm yn erbyn Ffrainc ddydd Sadwrn o achos anaf i’w ysgwydd.
Mae Ryan Jones wedi gwella o’i anaf yntau ac yn gapten ar y tîm ym Mharis.
Mae Ryan Jones yn un o dri newid yn y pac. Mae Justin Tipuric yn cael ei gyfle ac yn dechrau yn y crys rhif 7 ar ôl pwysau mawr gan y dilynwyr i gynnwys y dyn o’r Gweilch.
Un arall o’r Gweilch sy’n dechrau’n fachwr – Richard Hibbard.
Nid oes lle yn y garfan i’r bachwr yn erbyn Iwerddon, Matthew Rees, tra bod Lou Reed yn cael lle ar y fainc ac Ollie Kohn o’r Harlequins yn colli ei le.
Olwyr – Leigh Halfpenny, Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North, Dan Biggar a Mike Phillips.
Blaenwyr – Gethin Jenkins, Richard Hibbard, Adam Jones, Andrew Coombs, Ian Evans, Ryan Jones (Capten), Justin Tipuric a Toby Faletau.
Eilyddion – Ken Owens, Paul James, Craig Mitchell, Lou Reed, Aaron Shingler, Lloyd Williams, James Hook a Scott Williams.