Mae Capten y Dreigiau, Lewis Evans a’r bachwr Hugh Gustafson wedi cytuno ar gytundebau newydd a fydd yn cadw’r ddau chwaraewr yn y rhanbarth ar gyfer y ddau dymor nesaf.
‘‘Rydym yn hynod o falch bod y ddau wedi ymrwymo eu dyfodol i Ranbarth y Dreigiau,’’ meddai Robert Beale, cyfarwyddwr y Dreigiau.
“Rwy’n siŵr y byddant yn chwarae rhan fawr yn nyfodol y rhanbarth.”