Sale 36–17 Scarlets
Colli fu hanes y Scarlets yng Nghwpan LV brynhawn Sadwrn wrth i’r tîm sydd ar waelod Uwch Gynghrair Lloegr, Sale, eu curo’n gyfforddus.
Cafodd Bois y Sosban ddechrau da gan sgorio dau gais yn y chwarter cyntaf ond redd y tîm o Gymru heb sawl chwaraewr pwysig oherwydd anafiadau a galwadau rhyngwladol, ac fe ddangosodd hynny yn awr olaf y gêm wrth i Sale ennill yn hawdd.
Roedd y Scarlets 14-3 ar y blaen wedi ugain munud diolch i geisiau’r asgellwr, Andy Fenby, a’r mewnwr, Gareth Davies ynghyd â dau drosiad Owen Williams.
Bu rhaid i Sale ddibynnu ar gicio cywir Danny Cipriani i’w cadw yn y gêm yn yr hanner awr agoriadol cyn i’r ceisiau ddechrau llifo yn neg munud olaf yr hanner.
Gyda’r Scarlets i lawr i bedwar dyn ar ddeg oherwydd cerdyn melyn Jake Ball fe sgoriodd yr wythwr, Richie Vernon, a’r asgellwr, Charlie Amesbury i roi’r tîm cartref ar y blaen o 21-14 ar yr egwyl.
Caeodd Williams y bwlch hwnnw i bedwar pwynt gyda chic gosb gynnar yn yr ail hanner ond pan dderbyniodd y Cymry ail gerdyn melyn fe fanteisiodd Sale eto.
Gyda Rhodri Jones yn y gell gosb y tro hwn fe groesodd Cipriani am y trydydd cais cyn trosi ei ymdrech ei hun i sicrhau’r fuddugoliaeth i’w dîm.
Roedd pedwerydd cais hwyr i Charlie Ingall yn ddigon i sicrhau pwynt bonws i Sale hefyd wrth i dymor siomedig y Scarlets yn y cwpanau barhau. Maent yn aros ar waelod grŵp 3.
.
Sale
Ceisiau: Richie Vernon 31’, Charlie Amesbury 40’, Danny Cipriani 64’, Charlie Ingall 75’
Trosiadau: Danny Cipriani 40’, 64’
Ciciau Cosb: Danny Cipriani 13’, 24’, 28’, 56’
.
Scarlets
Ceisiau: Andy Fenby 4’, Gareth Davies 20’
Trosiadau: Owen Williams 4’, 20’
Cic Gosb: Owen Williams 47’
Cardiau Melyn: Jake Ball 30’, Rhodri Jones 61’