Gap Cei Connah 0–2 Bangor

Mae Bangor yn yr het ar gyfer pumed rownd Cwpan Cymru ar ôl curo Gap Cei Connah o flaen camerâu Sgorio brynhawn Sadwrn.

Bu rhaid gweithio’n galed i glirio’r eira oddi ar gae Stadiwm Glannau Dyfrdwy cyn y gêm, a Bangor lwyddodd orau i ymdopi â’r amodau anodd gan sgorio gôl ym mhob hanner i sicrhau buddugoliaeth gymharol gyfforddus.

Chris Simm a gafodd y cyfle gorau mewn hanner awr cyntaf digon di fflach ond cododd blaenwr Bangor y bêl dros y trawst.

Pan ddaeth y gôl agoriadol ddeg munud cyn yr egwyl, un ddigon blêr oedd hi – amddiffynnwr Gap, Danny Dobbins, yn penio croesiad Damien Allen heibio’i gôl-geidwad ei hun.

Doedd dim llawer o fflach yn ymosod Cei Connah yn yr hanner cyntaf â hwythau yn chwarae heb Rhys Healy a ymunodd â Chaerdydd yr wythnos hon.

Ond roedd yr ail hanner fymryn yn well a bu rhaid i Lee Idzi fod ar flaenau’i draed i arbed ergyd Craig Jones wedi iddi wyro tua’r gornel uchaf.

Cafodd Jamie Petrie gyfle da iawn i’r tîm cartref hefyd ond crafodd ei ergyd heibio’r postyn.

Sicrhawyd y fuddugoliaeth ugain munud o’r diwedd pan sgoriodd Gary O’Toole yn erbyn ei gyn glwb eiliadau’n unig ar ol dod i’r cae fel eilydd. O’Toole oedd y cyflymaf i ymateb pan darodd ergyd wych Ryan Edwards yn erbyn y trawst ac er i Rushton arbed peniad yr eilydd, fe sgoriodd gyda’i ail gynnig a’i ail gyffyrddiad ers dod i’r cae.

Dwy gôl o fantais i Fangor a dim gobaith i Gap daro’n ôl wedi hynny, hyd yn oed wedi i Jamie Brewrton dderbyn ail gerdyn melyn a cherdyn coch am lawio’r bêl chwarter awr o’r diwedd.

Ymateb

Mark McGregor, chwaraewr reolwr Cei Connah:

“Wnaethom ni ddim perfformio yn yr hanner cyntaf ac roedd hynny’n siomedig i’r cefnogwyr a sicrhaodd fod y gêm yn gallu cael ei chwarae. Roedden ni fymryn yn well yn yr ail hanner.”

“ Wnaethom ni ddim chwarae ein gêm arferol, rydyn ni fel arfer yn sgorio goliau ond rydym wedi siomi eto o flaen y camerâu teledu.”

.

Gap Cei Connah

Tîm: Rushton, Robinson, McGregor, Hardiker, Rowntree, Dobbins, R. Jones, C. Jones, Wynne, Petrie, Evans

Cardiau Melyn: Hardinker 56’, Wynne 69’, Rowntree 71’

.

Bangor

Tîm: Idzi, Brownhill, Brewerton, Johnston, Roberts, Jones, Edwards, Allen, Booth (Morley 79’), Davies, Simm (O’Toole 70’)

Goliau: Dobbins [g.e.h] 34’, O’Toole 70’

Cardiau Melyn: Simm 7’, Brownhill 64’, Brewerton 73’, 76’, O’Toole 90’

Cerdyn Coch: Brewerton 76’

.

Torf: 517