Yfory fe fydd y Scarlets yn herio Sale Sharks yn Salford City Stadium

Gyda 26 o’r chwaraewyr o’r garfan ddim ar gael oherwydd anfiadau, dyletswyddau rhyngwladol gwahanol, fel Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, Cymru dan 20 oed a’r saith bob ochr, fe fydd y Scarlets yn rhoi cyfle i wynebau newydd i gipio’r fuddugoliaeth yn Sale yfory.

Wedi cael tymor gwych cyn belled, mi fydd y maswr o glwb rygbi Llanelli, Owen Williams yn gwisgo’r crys rhif 10 i’r Scarlets.  Mae Williams wedi cipio cyfanswm o 23 o bwyntiau mewn dwy gêm i dre’r Sosban.

‘‘Mae yna chwaraewyr ifanc, cyffrous yn y garfan i wynebu Sale y penwythnos yma.  Bydd y gêm yma yn rhoi profiad gwerth chweil iddyn nhw ac yn beth da a’r gyfer ein rhanbarth,’’ meddai rheolwr y Scarlets, Simon Easterby.

Tîm y Sgarlets

Olwyr – Gareth Owen, Kristian Phillips, Gareth Maule (Capten), Adam Warren, Andy Fenby, Owen Williams a Gareth Davies

Blaenwyr – Rhodri Jones, Emyr Phillips, Deacon Manu, Jake Ball, Johan Synman, Lewis Rawlins, Duane Eager a Kieran Murphy

Eilyddion – Kirby Myhill, Rob Evans, Peter Edwards, Richard Kelly, Tomas Vallejos, Aled Davies, Nick Reynolds a Dale Ford.