Aaron Shingler
Mae’r Scarlets wedi cyhoeddi eu bod wedi sicrhau cytundebau i ddau chwaraewr heddiw, y brodyr Aaron a Steven Shingler.

Mae  Aaron, 26, wedi bod hefo’r Scarlets ers 2009, a bydd ei gytundeb newydd yn sicrhau 3 mlynedd arall o rygbi iddo ym Mharc y Scarlets.  Mae wedi gwneud 57 ymddangosiad hyd yn hyn, ac mae’r blaenwr ail-reng ifanc hefyd wedi ennill 4 o gapiau dros Gymru.

Bydd Steven, 21, yn symud o Wyddelod Llundain ar ddiwedd y tymor, lle mae wedi chwarae 39 o weithiau ers ymuno a nhw.  Mae wedi profi cryn lwyddiant yn chwarae yn safle’r maswr, gan sgorio 122 o bwyntiau i’r Gwyddelod, ond mae hefyd yn gallu chwarae yng nghanol y cae neu yn safle’r cefnwr.

Dywedodd hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby, bod y brodyr yn ychwanegiad gwerthfawr i’r tîm.

“Mae’n bwysig er mwyn ein datblygiad ein bod wedi sicrhau’r ddau chwaraewr dawnus yma, a byddan nhw’n werthfawr iawn i’r sgwad wrth symud ymlaen.  Bydd Steven yn ffitio i mewn i system y  Scarlets yn dda iawn gan ei fod wedi ei fagu yn y rhanbarth – mae’n chwaraewr aml ei ddoniau ac mae wedi elwa o’i brofiadau hefo Gwyddelod Llundain.

“Mae Aaron yn hynod broffesiynol, mae ei yrfa yn symud ymlaen ac mae wedi bod yn dda i weld ei ddatblygiad i’r tîm rhyngwladol tra ei fod yma ym Mharc y Scarlets hefyd,” meddai Easterby.

Dywedodd Steven Shingler: “Rydw i’n hynod falch o gael cyfle i ddychwelyd i Gymru, a chwarae i ranbarth dwi’n teimlo mor gryf amdano.”