Gweilch 15–15 Caerlŷr
Mae’r Gweilch allan o Gwpan Heineken yn dilyn gêm gyfartal yn erbyn Caerlŷr yn Stadiwm Liberty brynhawn Sul.
Roedd angen buddugoliaeth o leiaf, a phwynt bonws hefyd yn fwy na thebyg, ar y Gweilch os am unrhyw obaith o gyrraedd yr wyth olaf, ond gorffen yn gyfartal a wnaeth hi er iddynt ddod o fewn un trosiad hwyr i ennill y gêm.
Methodd Dan Biggar dri chynnig at y pyst yn yr ugain munud cyntaf wrth iddi aros yn ddi sgôr gyda chwarter y gêm wedi’i chwarae.
Ond doedd dim dwywaith mai’r tîm cartref oedd yn haeddu mynd ar y blaen ac fe wnaethant hynny wedi ychydig llai na hanner awr pan drosodd Biggar gic gosb yn dilyn cyfnod hir o bwyso gan ei dîm.
Parhau i reoli a wnaeth y Gweilch wedi hynny gyda Justin Tipuric yng nghanol popeth ac fe ddaeth y cais haeddianol toc wedi’r hanner awr. Gwnaeth Tipuric a Kahn Fotuali’i yn dda ar ddechrau’r symudiad cyn i Joe Bearman ei orffen gyda chais. Deg i ddim yn dilyn trosiad Biggar a’r Gweilch ar dân.
Caerlŷr a gafodd y gair olaf cyn hanner amser serch hynny wrth i Toby Flood gau’r bwlch i saith gyda chic gosb. Ac roedd hynny yn arwydd o’r hyn oedd i ddod yn yr ail hanner wrth i’r ymwelwyr o Loegr ddod fwyfwy i’r gêm.
Doedd fawr o syndod gweld Caerlŷr yn gyfartal wedi 67 munud felly wrth i Flood drosi cais Ben Youngs – cais a ddaeth o ganlyniad i fylchiad gwreiddiol Flood ei hunan.
Dilynodd ail gais yn fuan wedyn i’r asgellwr Niall Morris ac er i Flood fethu trosi hwnnw roedd yr ymwelwyr yn meddwl eu bod wedi gwneud digon i’w hennill hi.
Ond roedd gan y Gweilch ac Eli Walker yn enwedig syniadau gwahanol. Roedd yr asgellwr bach wedi edrych yn beryglus trwy gydol y gêm a gyda phum munud ar ôl fe greodd gais i’r eilydd, Jonathan Spratt, gyda rhediad lledrithiol.
Roedd gan Biggar drosiad i ennill y gêm felly ond un anodd iawn o’r ystlys anghywir i giciwr troed dde rhaid dweud. Fe ddaeth yn agos ond heibio’r postyn aeth hi wrth i’r Gweilch orfod bodloni ar gêm gyfartal.
Doedd hynny ddim yn ddigon i gadw eu gobeithion main o gyrraedd yr wyth olaf yn fyw wrth iddynt aros yn drydydd yn nhabl grŵp 2.
.
Gweilch
Ceisiau: Joe Bearman 31’, Jonathan Spratt 75’
Trosiad: Dan Biggar 33’
Cic Gosb: Dan Biggar 28’
.
Caerlŷr
Ceisiau: Ben Youngs 67’, Niall Morris 72’
Trosiad: Toby Flood 67’
Cic Gosb: Toby Flood 38’