Leinster 33–14 Scarlets
Colli fu hanes y Scarlets ar yr RDS yn Nulun nos Sadwrn wrth i Leinster ennill yn gyfforddus yn y gêm yng ngrŵp 5 Cwpan Heineken.
Cais Liam Williams toc cyn yr egwyl oedd uchafbwynt y Cymry ond sgoriodd y Gwyddelod bum cais i gyd wrth sicrhau pwynt bonws yn ogystal â’r fuddugoliaeth.
Er i Aled Thomas roi mantais gynnar o dri phwynt i’r Scarlets, buan iawn yr oedd Leinster ar y blaen diolch i gais Cian Healy. Sicrhaodd y tîm cartref feddiant glân o’r lein cyn i’r prop dirio.
Caeodd Liam Williams y bwlch i bwynt gyda gôl adlam ond sgoriodd Shane Jennings ail gais y gêm gyda help sgarmes symudol rymus cyn i Luke Fitzgerald ychwanegu trydydd saith munud cyn yr egwyl i roi mantais gyfforddus i’r tîm cartref.
Rhoddodd Liam Williams lygedyn o obaith i Fois y Sosban pan ddaliodd gic letraws a thirio i orffen symudiad da a chau’r bwlch i wyth pwynt ar yr egwyl.
Ond roedd y fuddugoliaeth fwy neu lai yn ddiogel i Leinster pan sicrhaodd Rob Kearney’r pwynt bonws gyda’r pedwerydd cais yn gynnar yn yr ail gyfnod.
Fe wnaeth Thomas drosi cic gosb arall i’r Scarlets wedi hynny ond rhy ychydig rhy hwyr oedd hi mewn gwirionedd ac fe goronodd Ian Madigan y fuddugoliaeth gyda throsgais hwyr.
Mae’r canlyniad yn gadael y Scarlets ar waelod tabl grŵp 5 heb fuddugoliaeth o gwbl.
.
Leinster
Ceisiau: Cian Healy 9’, Shane Jennings 24’, Luke Fitzgerald 33’, Rob Kearney 44’, Ian Madigan 80’
Trosiadau: Jonny Sexton 9’, 33’, 44’, Ian Madigan 80’
.
Scarlets
Cais: Liam Williams 40’
Ciciau Cosb: Aled Thomas 4’, 57’
Gôl Adlam: Liam Williams 12’